Arweinyddiaeth Ddigidol ar gyfer Llyfrgelloedd

Gall technolegau digidol ddarparu posibiliadau cyffrous i lyfrgelloedd cyhoeddus, gan gynnwys gwasanaethau newydd, ailddychmygu rhai sy'n bodoli eisoes a dod o hyd i ffyrdd newydd o ddiwallu anghenion deinamig ein cymunedau.

Ond nid yw technoleg yn bodoli mewn gwacter. Mae'n bwysicach nag erioed i feddu ar y sgiliau a'r wybodaeth i arwain ar drawsnewid digidol mewn ffyrdd sy'n cyd-fynd â rôl foesegol a gwarchodol ddibynadwy llyfrgelloedd yn y gymuned. Ar draws pum modiwl nod y cwrs hwn yw eich grymuso er mwyn eich helpu i ddatblygu gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio i gwrdd â heriau a chyfleoedd unigryw eu defnyddwyr.

Mae'r modiwl e-ddysgu hwn wedi’i wneud yn bosibl gyda chyllid gan Gyngor Celfyddydau Lloegr a Llywodraeth Cymru.

 

Price: £0.00